BBC/S4C Newyddion ar y gwrthdystiad yn Wrecsam heddiw / coverage of the protest in Wrexham today
Be mae’r Democratiaid Rhyddfrydol (Lib Dems) a’r Torïaid yn deud yw pwrpas y polisi yma ydy gwneud yn siŵr bod mwy o dai fforddiadwy ar gael. Ond does ‘na ddim tai ar gael i bobl sy’n cael eu heffeithio symud i. Syniad gwell byddai adeiladu mwy o dai. Buasai hynny yn helpu’r economi, cael mwy o bobl mewn swyddi, codi arian i’r llywodraeth trwy drethi a gostwng budd-daliadau. Mae ‘na siawns iddyn nhw newid cwrs yn y Gyllideb wythnos nesa – gobeithio bydden yn sylwi ar y gwrthdystiadau.
What do you think?