Yn y blynyddoedd diwethaf dwi wedi cymryd y cyfle i wneud sylwadau ar amrywiaeth o faterion gwleidyddol ac i ymgyrchu ar gyfer ymgeiswyr Llafur ar draws Gogledd Cymru yn ogystal â sefyll mewn etholiadau fy hun. Bydd hyn yn dod i ben wythnos nesa, pan fyddaf yn dechrau swydd newydd fel Prif Weithredwr sefydliad sy’n rhoi cyngor i ddinasyddion yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Mae’n gyfle cyffrous newydd, yn rhoi at ei gilydd fy awydd i helpu pobl â fy mhrofiad o arwain sefydliadau. Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu llawer o bobl ydy cynllunio eu harian. Roeddwn i’n meddwl y gallwn gyfrannu at hyn drwy hyfforddi fel athro mathemateg, ond bydd y cyfle newydd hwn yn gwneud defnydd gwell o fy sgiliau a phrofiad.
Yn fy rôl newydd, byddaf yn gwneud sylwadau ar ran y sefydliad dwi’n gweithio i – ac felly byddai’n ddryslyd ac yn amhriodol os oeddwn yn gwneud sylwadau personol a allai gyfaddawdu amhleidioldeb gwleidyddol y sefydliad. Felly, ni fyddaf yn blogio na trydari yn bersonol o hyn ymlaen.
Gyda dymuniadau gorau i chi i gyd.
What do you think?