Dwi wedi penderfynu gofyn am enwebiad y Blaid Lafur dros Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn etholiad Mai 2016.
Er nad ydw i’n cytuno efo’r system o gael un person yn penderfynu ar blismona dros Ogledd Cymru, yr unig ffordd o sicrhau cyfathrebiad go dda efo cymunedau a chytundeb eang ar beth sy’n bwysig ydy ethol Comisiynydd sydd eisiau sicrhau hyn.
Pedwar blynedd yn ôl roedd rhaid imi ddiswyddo er mwyn sefyll. Tro ‘ma mae gen i swydd di-gwleidyddol. Byddaf yn cadw’r ddau ar wahân ond yn parhau yn y swydd wrth ymgyrchu yn fy amser fy hun. Gawn ni weld beth sy’n digwydd…
.
What do you think?