Ar y rhestr fer

|

Da i glywed fy mod i ar y rhestr fer i ddewis Ymgeisydd y Blaid Lafur Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd dros Ogledd Cymru. Cwbl wahanol i dro diwethaf – pedwar blynedd yn ôl roedd rhaid imi ymddiswyddo i sefyll ac roeddwn i ati’n cysylltu efo aelodau – llythyrau, e-byst a galw ar y ffôn. Tro ‘ma dydy ymgeiswyr ddim yn cael y rhestr o aelodau. Os oedd rhywun arall yn rhoi manylion aelodau imi, neu os oedd gen i fanylion aelodau am reswm arall, buasai’n torri’r rheolau amddiffyn data – rhywbeth amhriodol i’r rôl yma!

Dwi’n edrych ymlaen at annog cyfarfodydd o’r aelodau ymhob etholaeth dros y pythefnos nesaf ac yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau gan aelodau cyn hynny…

What do you think?