Rajeev Metri
Ymgeisydd Llafur dros Clwyd / Labour candidate for Clwyd

Dechreuais weithio fel nyrs yn Ysbyty Glan Clwyd yn 2004, ar ôl graddio efo BSc Nyrsio yn India yn 1998. Dwi’n byw ym Modelwyddan gyda fy ngwraig (sydd hefyd yn nyrs) a’m merched. Dwi’n ymroddedig i wasanaeth cymunedol, gan wasanaethu fel Cynghorydd Tref Bodelwyddan ers 2019 ac fel Cynghorydd Sir Dinbych ers 2022.
Dwi’n cadeirydd BCUnity ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n cefnogi staff tramor sydd newydd eu recriwtio trwy ddarparu cefnogaeth fugeiliol a moesol. Dwi hefyd yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Ysgol-Y-Faenol ym Modelwyddan. Dwi benderfynol o sicrhau gwelliannau mewn addysg, iechyd a lles, gan gefnogi dysgwyr ifanc a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Dwi’n aelod o’r Lleng Brydeinig Frenhinol, y Groes Goch Brydeinig, Coleg Brenhinol y Nyrsys ac Unite the Union. Dwi’n ymfalchïo yn fy nghefnogaeth weithredol i lawer o elusennau yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Ers symud i Ogledd Cymru 21 mlynedd yn ôl, ar wahân i harddwch y dirwedd, mae cariad, hoffter a lletygarwch pobl Cymru wedi fy nghadw i fynd a dwi eisiau rhoi yn ôl i’r gymuned leol yma. Enillodd fy nghyfraniadau rheng flaen yn ystod pandemig COVID-19 gydnabyddiaeth gan amryw o arweinwyr iechyd lleol. Ar ôl goroesi gofal dwys yn bersonol yn ystod y pandemig, dwi’n deall pwysigrwydd gofal iechyd ataliol, meddygaeth ffordd o fyw, a lles meddyliol. Dwi’n hyrwyddo ioga, myfyrdod, cerdded, a bwyta’n iach yn weithredol fel rhan o ddull cyfannol o ymdrin ag iechyd. Roeddwn i’n mwynhau chwarae criced i Abergele ac roeddwn i’n un o’r bowlwyr gorau am flynyddoedd lawer.
Fel aelod o’r Senedd, byddwn i eisiau sicrhau newid effeithiol, nodi a mynd i’r afael â rhwystrau systemig i gynhwysiant a helpu i adeiladu cymdeithas fwy cyfartal lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.
Cynghorydd Rajeev Metri – Arweinydd Ymroddedig mewn Iechyd, Cymuned ac Addysg
Cllr Rajeev Metri – A Dedicated Leader in Health, Community, and Education
I started working as a nurse at Glan Clwyd Hospital in 2004, having graduated with a BSc Nursing in India in 1998. I live in Bodelwyddan with my wife (also a nurse) and daughters. I am committed to community service, serving as a Bodelwyddan Town Councillor since 2019 and as a Denbighshire County Councillor since 2022.
I am chair of BCUnity at Betsi Cadwaladr University Health Board, which supports newly recruited overseas staff by providing pastoral & moral support. I am also a Governor at Ysgol-Y-Faenol Primary School in Bodelwyddan. I am committed to securing improvements in education, health & wellbeing, supporting young learners and children with additional learning needs.
I am a member of the Royal British Legion, the British Red Cross, the Royal College of Nursing and Unite the Union. I take pride in my active support to many charities locally, regionally and nationally.
Since moving to North Wales 21 years ago, apart from the beauty of landscape, the love, affection and hospitality of Welsh people has kept me going and I retain my drive to do something in return for the local community here. My frontline contributions during the COVID-19 pandemic earned recognition from various local health leaders. Having personally survived intensive care during the pandemic, I understand the importance of preventative healthcare, lifestyle medicine, and mental well-being. I actively promote yoga, meditation, walking, and healthy eating as part of a holistic approach to health. I enjoyed playing cricket for Abergele and was one of the best bowlers for many years.
As a Senedd member, I would want to secure impactful change, identifying and addressing systemic barriers to inclusivity and helping to build a more equitable society where everyone feels valued and respected.
Cllr Rajeev Metri – A Dedicated Leader in Health, Community, and Education
Hyrwyddwyd gan Joe Lock ar ran Ymgeiswyr Senedd Plaid Lafur Clwyd
Cyfeiriad Cofreistredig: 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9HA
Cysylltwch a Raj trwy lenwi’r ffurflen isod:
Promoted by Joe Lock on behalf of the Clwyd Labour Party Senedd Candidates.
Registered address: 1 Cathedral Road, Cardiff CF11 9HA
Contact Raj by completing the form below:
You must be logged in to post a comment.