Tal Michael

Cynghorwr Arbennig i Lywodraeth Cymru ar Tai, Llywodraeth Lleol a’r Iaith Gymraeg
Dwi’n ymgyrchydd profiadol dros Lafur, wedi arwain fel ymgeisydd ac wedi trefnu ymgyrchoedd. Dwi’n siarad Cymraeg yn rhugl, wedi arfer rhoi cyfweliadau i’r cyfryngau, ysgrifennu dogfennau a rhoi cyflwyniadau. Mae gen i brofiad helaeth fel gwas cyhoeddus, gan wneud gwahaniaeth i fywydau pobl: fel cynghorydd Llafur a Chydweithredol, fel uwch swyddog mewn llywodraeth leol yn Lloegr ac fel Prif Weithredwr Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru. O 2015 -2025 wnes i gwasanaethu fel Prif Weithredwr elusen gynghori ym Mangor. Wrth i’r argyfwng costau byw ddatblygu, fe welais pa mor anodd y mae i bobl gyffredin, sy’n gwneud eu gorau i gynnal eu teuluoedd. Rydym ar ein cryfaf pan fyddwn yn canolbwyntio ar bwrpas sylfaenol y Blaid Lafur sef gwellhau bywydau pobl gyffredin.
Dwi’n aelod o’r Blaid Gydweithredol ac yn cefnogi egwyddorion cydweithredol; yn undebwr llafur ymroddedig, gwasanaethais ar bwyllgor aelodau ifanc fy undeb a sicrheais gydnabyddiaeth undeb llafur yn yr elusen roeddwn yn arwain.
O 2023 i 2025 roeddwn yn aelod bwrdd cymdeithas dai leol, yn adeiladu tai rhentu cymdeithasol newydd ledled Gogledd Cymru.
I gysylltu efo fi, llenwch y ffurflen isod:
You must be logged in to post a comment.