Mae Cymry Cymraeg yng Ngogledd Cymru yn cefnogi Tal Michael. Gweler isod beth mae rhai ohonyn yn ddweud.
Albert Owen, Aelod Seneddol Ynys Môn
“Mae’n hanfodol bwysig ennill y bleidlais ar draws Gogledd Cymru, o’r Dwyrain i’r Gorllewin er mwyn sicrhau buddugoliaeth yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae gan Tal y profiad a’r sgiliau addas i gyflawni hyn ac ennill ar ran Llafur.”
Betty Williams, cyn Aelod Seneddol Conwy
“Rwy’n ymwybodol o waith Tal i wneud yn siŵr bod dioddefwyr o drais yn y cartref yn cael eu cefnogi. Dywedodd wrthyf am Amethyst, y Canolfan Atgyfeirio Dioddefwyr Troseddau Rhywiol (SARC). Gyda chymorth asiantaethau eraill, mae nawr yn bosib siarad pethau trwodd hefo’r weithwraig/iwr argyfwng a sicrhau tystiolaeth cyn penderfynu mynd at yr heddlu. Tal yw’r person gorau ar gyfer y swydd bwysig hon.”
Gareth Thomas, cyn Aelod Seneddol Clwyd Gorllewin
“Dwi’n cefnogi Tal achos fo yw’r ymgeisydd gyda’r siawns gorau o ennill i Lafur. Mae rhaid i ni ddenu cefnogaeth eang. Wrth gwrs bydd rhaid cael cefnogaeth ein pleidleiswyr crai yn y cadarnleodd. Ond y gwir amdani yw, nid yw hyn yn ddigon. Rhaid cael ymgeisydd gydag apêl eang i bob rhan o’r Gogledd yn enwedig y bröydd Cymraeg. Dwi’n gweld Tal yn llwyddo i wneud hyn.”
Guto Davies, Swyddog Ieuenctid Ynys Môn
Am y tro cyntaf erioed ar y 15fed o Dachwedd, bydd pobl ar draws Cymru a Lloegr yn ethol comisiynydd heddlu a throsedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am sut mae troseddau yn cael eu hatal yn yr ardal. Mae gan Tal Michael lu o brofiad yn y maes yma a hefyd gyda’r agwedd gywir i gynrychioli pob oedran. Er fy mod wedi cyfarfod a Mr Michael unwaith yn unig, roedd ei ddealltwriaeth ac empathi tuag at bobl ifanc yn ddylanwadol yn fy mhenderfyniad i’w gefnogi. Mae ei agwedd a’i berfformiad yn y gorffennol yn adlewyrchiad i’r gwaith caled y bydd Tal yn ei wneud i sicrhau fod pawb yn y gymuned yn cael eu cynrychioli yn y ffordd gywir.
Ewch yma i ddarllen mwy yn Gymraeg am fy mholisïau ar gyfer Gogledd Cymru
You must be logged in to post a comment.